Anrhydedd am gyfraniad arbennig

beryl Cyffredinol

Llongyfarchiadau mawr i un o’n haelodau Hugh Roberts o’r Bermo ar gael ei anrhydeddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am ei gyfraniad arbennig yn llunio ei gasgliad o ffotograffau hanesyddol sydd i’w weld yma.

Categori Oedolion – Hugh Griffith Roberts 

Mae cyn swyddog Parc Cenedlaethol wedi treulio’r rhan fwyaf o’r degawd diwethaf yn gofalu am ‘y casgliad gorau, mae’n siwr’ o ffotograffau hanesyddol ym Mhrydain, gan ennyn diddordeb byd-eang a meithrin cydlyniant cymunedol mewn tref glan y môr y mae ei phoblogaeth yn draddodiadol wedi bod o natur amharhaol. Mae Hugh Griffith Roberts, o’r Bermo, hefyd wedi helpu i  hyrwyddo cynhwysiant digidol ymysg pobl hŷn, gan eu hannog i ddefnyddio gwefan i edrych ar y lluniau a’u rhannu â chyfeillion drwy ebost.