Er mai criw bach ddaeth ynghyd i Drawsfynydd cafwyd darlith arbennig o ddadlennol am un o blant Meirionydd nad yw wedi cael fawr ddim sylw, Morgan Lloyd, Cefngellgwm. Y siaradwr, Gareth Huws, a wnaeth ein goleuo am un o blant disglair Meirionnydd a gyrhaeddodd uchelfannau’r gyfraith yn Llundain cyn mynd yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Môn.
Gohirio gweithdy
Ni fydd gweithdy Cofio a Chreithiau yn cael ei gynnal ar 17 Mai. Bydd y nesaf ar 7 Mehefin.
Newid dyddiad ymweliad â Thyn-y-coed
Newidiwyd dyddiad ein hymweliad â Thyn-y-coed i 25 Mehefin (y dydd Sadwrn canlynol). Byddem yn falch iawn pe gallech sôn wrth eich cyd-aelodau am y newid.
Cofio a Chreithiau
Cofiwch am ein diwrnod i ddathlu ein prosiect ‘Cofio’ ddydd Sadwrn 7 Mai 2016 am 2.30 yn Nhanybwlch. Bydd sgyrsiau gan Geraint Vaughan Jones, Vivian Parry Williams, Menna Jones a Beryl H Griffiths.
Y Ddarlith Gymraeg -23/4/16
Y Ddarlith Gymraeg: Rhai o Gapeli Meirionnydd gan Dr Huw Owen. Neuadd Bentref Llanuwchllyn, Y Bala Dydd Sadwrn, 23 Ebrill am 2.30 o’r gloch. Bydd paned ar gael. Croeso i bawb. Mynediad am ddim.
Gweithdai Cofio a Chreithiau – 24 Mawrth
Aethom ati i sganio clawr rhaglen dadorchuddio cofeb Dolgellau a’i osod ar sgrin er mwyn trafod oblygiadau cynnwys rhywbeth o’r fath ar ein gwefan. Bu’n gymorth i ni i gychwyn ffurfio protocol ar gyfer ein gwaith a hefyd rhoddodd gyfle i bawb i gyfrannu syniadau a sylwadau. Teimlwn ein bod yn magu hyder a gweledigaeth. Cawsom sgwrs gan Catherine James …
Gweithdai Cofio a Chreithiau – 10 Mawrth 2015
Daeth yr un aelodau i’r ail weithdy. Cawsom drafodaeth ynghyn â’n bwriadau a chawsom gychwyn da yn gwrando ar hanesion am ddau daid i Geraint Vaughan Jones. Disgrifiodd Geraint rai o’r amgylchiadau trist a gwelsom nifer o luniau a dogfennau perthnasol. Drwy hyn, cawsom wybod am rai o’r ffynonellau buddiol a’r cofnodion swyddogol sydd ar gael i’n cynhorthwy wrth ymchwilio. …
Gweithdai Cofio a Chreithiau – 24 Chwefror 2015
Fel rhan o’n prosiect loteri, rydym am gofnodi hanesion a sganio deunyddiau teuluol a lleol sy’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr. Daeth 12 o aelodau a thri ymwelydd atom i Archifdy Dolgellau am ddiwrnod o hyfforddiant dan ofal Hazel Thomas a Rhian Davies, Casgliad y Werin. Ymhlith yr ymwelwyr oedd Craig Owen, Cyfarwyddwr newydd prosiect Cymru Dros Heddwch, sydd wedi ei …