Diolch i gwmni Geiriau Gwyn rydym yn gallu cynnig cyfle i chi wrando eto ar sgwrs arbennig Gwenan Gibbard am archif Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney.
Y Diwydiant Gwlân a Chaethwasiaeth
7 Medi 2019 A hithau’n ddiwrnod braf ar ddechrau Medi, daeth cynulleidfa deilwng iawn i adeilad y Beudy Llwyd yn yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd i wrando ar y Dr Marian Gwyn yn traethu, yn Saesneg, yn eithriadol ddifyr ac awdurdodol ar Wlân Cymru a Masnach Caethwasiaeth yr Iwerydd. Fel pwnc hynod anodd ei drafod yn gyffredinol, awgrymodd ei bod efallai’n …
Ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol
1 Mehefin 2019 Daeth nifer dda o aelodau’r Gymdeithas ynghyd unwaith eto i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i wrando ar sgwrs ar Gasgliad Brogyntyn gan Hilary Peters, Archifydd Cynorthwyol gyda’r Llyfrgell. Tyfodd Brogyntyn o fod yn gastell mwnt a beili Cymreig, a sefydlwyd efallai gan Owain Brogyntyn ap Madog yn y 12fed ganrif, ac sydd ond ag olion ohono ar …
Darlith Gruffydd Aled Williams
Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2019 Daeth nifer ardderchog iawn i wrando ar ddarlith ar y testun ‘O’r Ganllwyd i Russell Gulch: Edward Wynne Williams, un o arloeswyr aur Colorado’. Cafwyd cyflwyniad PowerPoint hynod ddifyr i gyd-fynd â’r sgwrs yn olrhain hanes a bywyd y gŵr o Dyddyn Gwladys, Ganllwyd a fudodd i’r Unol Daleithiau yn 1869 cyn gwneud ei ffortiwn …
Yng Nghysgod Moelfre
Sgwrs yn Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, ddydd Sadwrn 3 Mehefin 2017 am 2.30 yp. Siaradwr Andrew Wolfe
Rhaglen 2017
Mae’r rhaglen bellach wedi ei rhyddhau, ac ar gael ar y wefan. Cofiwch, os ydych yn awyddus i fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol ar 22 Ebrill i gael hanes Robert Vaughan, Hengwrt, bod angen i chi roi eich enw i Gwerfyl, ein Trefnydd Cyfarfodydd newydd – gwerfyl.price@btinternet.com. Prin iawn yw’r lleoedd sydd ar ôl – felly cyntaf i’r felin!
Blwyddyn Newydd Dda
Pob dymuniad da i’n haelodau ar gyfer y flwyddyn newydd. Bydd y rhaglen yn mynd i’r wasg yn fuan iawn a dylai eich cyrraedd yn ystod mis Chwefror.
Cyfarfod Blynyddol 2016 – 8 Hydref
Cofiwch am y Cyfarfod Blynyddol am 2 o’r gloch ac yna’r ddarlith gan y Dr Dafydd Gwyn am archaeoleg y diwydiant llechi ym Meirionnydd.
- Page 1 of 2
- 1
- 2