Dydd Sadwrn 23 Mai – Yr Ysgwrn

beryl Cyffredinol

Daeth nifer dda o aelodau draw ar ein hymweliad â’r Ysgwrn. Roedd yn brofiad arbennig cael yr hanes gan Gerald ar yr aelwyd a dod i sylweddoli gwir effaith y Rhyfel Mawr ar un aelwyd wledig, a thrwy hynny gweld effaith rhyfel ar gymaint o aelwydydd. Rhoddodd swyddogion y Parc Cenedlaethol esboniad ddarlun i ni o’r datblygiadau cyffrous sydd ar y gweill hefyd yn yr Ysgwrn.

20150523_150423 (2) yr ysgwrn  20150523_150536 (3)