Gweithdai Cofio a Chreithiau – 24 Mawrth

beryl Digwyddiadau

Aethom ati i sganio clawr rhaglen dadorchuddio cofeb Dolgellau a’i osod ar sgrin er mwyn trafod oblygiadau cynnwys rhywbeth o’r fath ar ein gwefan.  Bu’n gymorth i ni i gychwyn ffurfio protocol ar gyfer ein gwaith a hefyd rhoddodd gyfle i bawb i gyfrannu syniadau a sylwadau.  Teimlwn ein bod yn magu hyder a gweledigaeth. Cawsom sgwrs gan Catherine James o gwmpas nifer o ddogfennau a thystysgrifau oedd yn ymwneud â hanes ei thad, Jenkin W James, a fu’n Wrthwynebwr Cydwybodol. Daeth Mr James yn brifathro mawr ei barch, ar Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Y Bala.    

Byddwn yn dal ati i ddatblygu’n gwaith gan gefnogi’r Archifdy ac annog pawb i gyflwyno dogfennau gwreiddiol i’n casgliad yno.