Fel rhan o’n prosiect loteri, rydym am gofnodi hanesion a sganio deunyddiau teuluol a lleol sy’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr. Daeth 12 o aelodau a thri ymwelydd atom i Archifdy Dolgellau am ddiwrnod o hyfforddiant dan ofal Hazel Thomas a Rhian Davies, Casgliad y Werin. Ymhlith yr ymwelwyr oedd Craig Owen, Cyfarwyddwr newydd prosiect Cymru Dros Heddwch, sydd wedi ei leoli yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Gobeithiwn osod cyfran o’n gwaith ar eu gwefan, dan adain gwefan Casgliad y Werin. Mae gogwydd cofio a dysgu gwersi i’n gwaith wrth i ni ymchwilio i rai o effeithiau’r rhyfel ar Feirionnydd.
Cawsom ddiwrnod prysur a dwys wrth i ni ddysgu am ddeddfau hawlfraint a dulliau sganio i gyfarfod â safonau penodol. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr hyfforddiant effeithiol ac am yr hwb i fynd ati o ddifrif.