Gweithdy 6 Hydref 2015 Archifdy Dolgellau

beryl Cyffredinol

Daeth saith ohonom at ein gilydd ac ymunwyd â ni gan Hanna Huws, swyddog Cymunedau Gogledd Cymru, Cymru Dros Heddwch. Difyr oedd cyfnewid gwybodaeth a thrafod posibiliadau cydweithio.Dyma rai o’r pynciau a ddaeth i’r wyneb:
Hanna- 

  • Edrych am ffyrdd o ddod o hyd i heddwch
  • Plant ‘heb hanes’, a sut i gau’r bwlch
  • Prosiect Llyfr y Cofio, Rhian James Jones, digido pawb a gofnodwyd ar gofebion-Cymru
  •  AP Cymru’n Cofio ar gael i’w lawr-lwytho

Aelodau: Cwrs ar lein ‘futurelearn’. Rhian W wedi ei ddefnyddio ac yn ei gymeradwyo.

Mae dau o leiaf all fod o ddiddordeb i aelodau.

WW1: Trauma and Memory – dechrau 16 Tachwedd, 2 awr yr wythnos am 3 wythnos. BBC a’r Brifysgol Agored.

WW1 Changing Faces of Heroism – dechrau 26 Hydref, 4 awr yr wythnos am 3 wythnos. Prifysgol Leeds.

Cyfeiriwyd at y Ddau Gefnder, sef hanes a gofnodwyd gan Beryl.
Cyfeiriwyd at y gwaith mae Menna Jones yn ei wneud yn cofnodi hanes ysbytai yn y gogledd ar gyfer milwyr y Rhyfel Mawr.

Cynigiodd Catherine luniau o ddogfennau a sganiwyd gennym i’w gosod ar wefan Cymru Dros Heddwch ar ffurf stori. Trosglwyddwyd y rhain i Hanna.

Cawsom gopi gan Vivian o’r gwaith manwl a wnaeth ar y Tribiwnlys yn Llanrwst, a grybwyllwyd y tro blaenorol. Rhoddodd gopi o’i erthygl fel y gallwn dethol gydag ef, darn/darnau i’w rhoi ar ein gwefan newydd ac o bosibl ar Gasgliad y Werin.