7 Medi 2019
A hithau’n ddiwrnod braf ar ddechrau Medi, daeth cynulleidfa deilwng iawn i adeilad y Beudy Llwyd yn yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd i wrando ar y Dr Marian Gwyn yn traethu, yn Saesneg, yn eithriadol ddifyr ac awdurdodol ar Wlân Cymru a Masnach Caethwasiaeth yr Iwerydd. Fel pwnc hynod anodd ei drafod yn gyffredinol, awgrymodd ei bod efallai’n anoddach fyth i ni Gymry feddwl am ein rhan ni mewn caethwasiaeth oherwydd ein bod yn hanesyddol yn meddwl amdanom ein hunain fel gwlad a phobl werinol a fu’n flaenllaw, yn enwedig drwy’r undebau llafur, yn amddiffyn y sathredig. Er hynny, y realiti oedd bod y fasnach hon yn cyffwrdd ag amryw byd o wledydd a doedd Cymru, a’i rhan yn y ‘fasnach drionglog’ hon, ddim yn eithriad. Gellid dadlau mai’r fasnach wlân oedd yr un fwyaf yng Nghymru am ganrifoedd ond prin er hynny fod y gwehydd, y pannwr a’r lliwydd cyffredin yn ymwybodol neu’n ymhél llawer â’r gwirionedd mai i ddilladu caethweision yr oedd llawer iawn o’u cynnyrch yn mynd a bod gwlân Cymru’n adnabyddus nid yn unig fel ‘Welsh plains’ ond yn gyfystyr â ‘negro cloth’ yn gyffredinol. Roedd ffeithiau moel ac echrydus y ddarlith am ystadegau’r fasnach yn ei hanterth yn ddigon i oeri’r gwaed a gallwn ond diolch heddiw ein bod yn byw mewn oes fwy goleuedig a gwâr. Fel awdurdod ar y pwnc, gobeithiwn y bydd Marian yn rhoi ei sgwrs ar ddu a gwyn i ni’n fuan iawn. Cawsom de a chacen yn y caffi wedyn gan fwynhau’r golygfeydd godidog drwy ffenestri’r hen feudy.