1 Mehefin 2019
Daeth nifer dda o aelodau’r Gymdeithas ynghyd unwaith eto i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i wrando ar sgwrs ar Gasgliad Brogyntyn gan Hilary Peters, Archifydd Cynorthwyol gyda’r Llyfrgell. Tyfodd Brogyntyn o fod yn gastell mwnt a beili Cymreig, a sefydlwyd efallai gan Owain Brogyntyn ap Madog yn y 12fed ganrif, ac sydd ond ag olion ohono ar ôl ym Mharc Brogyntyn erbyn heddiw, i fod yn un o ystadau mwyaf Gogledd Cymru (er yn Lloegr, roedd yr ardal o gwmpas Brogyntyn yn Gymreigaidd iawn am ganrifoedd). Brithwyd y sgwrs gan luniau o adeiladau a phobl yn gysylltiedig â hanes yr ystâd, a llythyrau rhwng y teulu a’u cysylltiadau. Yna cafwyd arddangosfa o hen greiriau’n ymwneud â Brogyntyn a Glyn Cywarch, a thaith dywys o gwmpas y Llyfrgell yng nghwmni Hilary. Roedd yn ddiwrnod cofiadwy wedi’i hwyluso’n gampus unwaith eto gan staff y Llyfrgell. Diolch yn fawr iddi hi a hwythau.