CYSYLLTU AC YMAELODI

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas a’i gweithgareddau mae croeso i chi gysylltu trwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Ond yn well fyth, beth am ymaelodi:

Os dymunwch ddod yn aelod o Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, tâl blynyddol aelodaeth yw :

  • Unigolyn – £15
  • Teulu – £18
  • Sefydliadau – £20
  • Tramor – £15
  • Myfyrwyr – £10

Am hyn, fe gewch :
gyfarfodydd yn ymdrin â hanes lleol, llenyddiaeth, llên gwerin, hanes teulu ac archaeoleg, ymweliadau maes a gwibdeithiau i safleoedd hanesyddol (gweler tudalen Digwyddiadau), gylchgrawn blynyddol (gweler tudalen  ‘Y Cylchgrawn‘) y fantais o hybu astudio hanes lleol a diogelu archifau lleol (gweler tudalen Prosiectau).

Gall cyfarfodydd fod yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog ac fe fydd yr iaith ddefnyddir yn cael ei nodi â’r wybodaeth am y digwyddiad.

I ymuno, ewch ati i lawrlwytho’r ffurflen gais trwy daro ar y ddolen isod. Dylech argraffu a chwblhau dau gopi o’r ffurflen a’r archeb sefydlog NEU gopi o’r ffurflen â’r tâl aelodaeth, a’u hanfon drwy’r post i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.