Y Diwydiant Gwlân a Chaethwasiaeth

beryl Cyffredinol

7 Medi 2019

A hithau’n ddiwrnod braf ar ddechrau Medi, daeth cynulleidfa deilwng iawn i adeilad y Beudy Llwyd yn yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd i wrando ar y Dr Marian Gwyn yn traethu, yn Saesneg, yn eithriadol ddifyr ac awdurdodol ar Wlân Cymru a Masnach Caethwasiaeth yr Iwerydd. Fel pwnc hynod anodd ei drafod yn gyffredinol, awgrymodd ei bod efallai’n anoddach fyth i ni Gymry feddwl am ein rhan ni mewn caethwasiaeth oherwydd ein bod yn hanesyddol yn meddwl amdanom ein hunain fel gwlad a phobl werinol a fu’n flaenllaw, yn enwedig drwy’r undebau llafur, yn amddiffyn y sathredig. Er hynny, y realiti oedd bod y fasnach hon yn cyffwrdd ag amryw byd o wledydd a doedd Cymru, a’i rhan yn y ‘fasnach drionglog’ hon, ddim yn eithriad. Gellid dadlau mai’r fasnach wlân oedd yr un fwyaf yng Nghymru am ganrifoedd ond prin er hynny fod y gwehydd, y pannwr a’r lliwydd cyffredin yn ymwybodol neu’n ymhél llawer â’r gwirionedd mai i ddilladu caethweision yr oedd llawer iawn o’u cynnyrch yn mynd a bod gwlân Cymru’n adnabyddus nid yn unig fel ‘Welsh plains’ ond yn gyfystyr â ‘negro cloth’ yn gyffredinol. Roedd ffeithiau moel ac echrydus y ddarlith am ystadegau’r fasnach yn ei hanterth yn ddigon i oeri’r gwaed a gallwn ond diolch heddiw ein bod yn byw mewn oes fwy goleuedig a gwâr. Fel awdurdod ar y pwnc, gobeithiwn y bydd Marian yn rhoi ei sgwrs ar ddu a gwyn i ni’n fuan iawn. Cawsom de a chacen yn y caffi wedyn gan fwynhau’r golygfeydd godidog drwy ffenestri’r hen feudy.

Ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol

beryl Cyffredinol

1 Mehefin 2019

Daeth nifer dda o aelodau’r Gymdeithas ynghyd unwaith eto i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i wrando ar sgwrs ar Gasgliad Brogyntyn gan Hilary Peters, Archifydd Cynorthwyol gyda’r Llyfrgell. Tyfodd Brogyntyn o fod yn gastell mwnt a beili Cymreig, a sefydlwyd efallai gan Owain Brogyntyn ap Madog yn y 12fed ganrif, ac sydd ond ag olion ohono ar ôl ym Mharc Brogyntyn erbyn heddiw, i fod yn un o ystadau mwyaf Gogledd Cymru (er yn Lloegr, roedd yr ardal o gwmpas Brogyntyn yn Gymreigaidd iawn am ganrifoedd).  Brithwyd y sgwrs gan luniau o adeiladau a phobl yn gysylltiedig â hanes yr ystâd, a llythyrau rhwng y teulu a’u cysylltiadau. Yna cafwyd arddangosfa o hen greiriau’n ymwneud â Brogyntyn a Glyn Cywarch, a thaith dywys o gwmpas y Llyfrgell yng nghwmni Hilary. Roedd yn ddiwrnod cofiadwy wedi’i hwyluso’n gampus unwaith eto gan staff y Llyfrgell. Diolch yn fawr iddi hi a hwythau.

Darlith Gruffydd Aled Williams

beryl Cyffredinol

Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2019

Daeth nifer ardderchog iawn i wrando ar ddarlith ar y testun ‘O’r Ganllwyd i Russell Gulch: Edward Wynne Williams, un o arloeswyr aur Colorado’. Cafwyd cyflwyniad PowerPoint hynod ddifyr i gyd-fynd â’r sgwrs yn olrhain hanes a bywyd y gŵr o Dyddyn Gwladys, Ganllwyd a fudodd i’r Unol Daleithiau yn 1869 cyn gwneud ei ffortiwn yn cloddio a dod yn berchen ar nifer o weithfeydd aur yn Colorado. Roedd yn gymeriad hynod liwgar yn ei fywyd gwaith a charwriaethol yn ôl y sôn! Daeth nifer dda iawn o deulu Edward Wynne Williams hefyd i’r cyfarfod, llawer ohonynt yn dal i fyw yn ardal Dolgellau ac yn ymfalchïo yn y berthynas.

Rhaglen 2017

beryl Cyffredinol

Mae’r rhaglen bellach wedi ei rhyddhau, ac ar gael ar y wefan. Cofiwch, os ydych yn awyddus i fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol ar 22 Ebrill i gael hanes Robert Vaughan, Hengwrt, bod angen i chi roi eich enw i Gwerfyl, ein Trefnydd Cyfarfodydd newydd – gwerfyl.price@btinternet.com. Prin iawn yw’r lleoedd sydd ar ôl – felly cyntaf i’r felin!

Blwyddyn Newydd Dda

beryl Cyffredinol

Pob dymuniad da i’n haelodau ar gyfer y flwyddyn newydd. Bydd y rhaglen yn mynd i’r wasg yn fuan iawn a dylai eich cyrraedd yn ystod mis Chwefror.

Y Cylchgrawn

beryl Y Cylchgrawn

Mae rhifyn diweddaraf y Cylchgrawn yn awr ar gael yn llawn o erthyglau diddorol ar destunau yn amrywio o Owain Glyndŵr i’r Arglwydd Maelor. Diolch o galon i Hugh G Roberts, y Bermo am y llun rhagorol yma o Arglwydd Maelor a’i olynydd  Will Edwards.

 

img021