Cofiwch am y Cyfarfod Blynyddol am 2 o’r gloch ac yna’r ddarlith gan y Dr Dafydd Gwyn am archaeoleg y diwydiant llechi ym Meirionnydd.
24/9/16 Morgan Lloyd – Cefngellgwm
Er mai criw bach ddaeth ynghyd i Drawsfynydd cafwyd darlith arbennig o ddadlennol am un o blant Meirionydd nad yw wedi cael fawr ddim sylw, Morgan Lloyd, Cefngellgwm. Y siaradwr, Gareth Huws, a wnaeth ein goleuo am un o blant disglair Meirionnydd a gyrhaeddodd uchelfannau’r gyfraith yn Llundain cyn mynd yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Môn.
Gohirio gweithdy
Ni fydd gweithdy Cofio a Chreithiau yn cael ei gynnal ar 17 Mai. Bydd y nesaf ar 7 Mehefin.
Newid dyddiad ymweliad â Thyn-y-coed
Newidiwyd dyddiad ein hymweliad â Thyn-y-coed i 25 Mehefin (y dydd Sadwrn canlynol). Byddem yn falch iawn pe gallech sôn wrth eich cyd-aelodau am y newid.
Cofio a Chreithiau
Cofiwch am ein diwrnod i ddathlu ein prosiect ‘Cofio’ ddydd Sadwrn 7 Mai 2016 am 2.30 yn Nhanybwlch. Bydd sgyrsiau gan Geraint Vaughan Jones, Vivian Parry Williams, Menna Jones a Beryl H Griffiths.
Gweithdy 6 Hydref 2015 Archifdy Dolgellau
Daeth saith ohonom at ein gilydd ac ymunwyd â ni gan Hanna Huws, swyddog Cymunedau Gogledd Cymru, Cymru Dros Heddwch. Difyr oedd cyfnewid gwybodaeth a thrafod posibiliadau cydweithio.Dyma rai o’r pynciau a ddaeth i’r wyneb:
Hanna-
- Edrych am ffyrdd o ddod o hyd i heddwch
- Plant ‘heb hanes’, a sut i gau’r bwlch
- Prosiect Llyfr y Cofio, Rhian James Jones, digido pawb a gofnodwyd ar gofebion-Cymru
- AP Cymru’n Cofio ar gael i’w lawr-lwytho
Aelodau: Cwrs ar lein ‘futurelearn’. Rhian W wedi ei ddefnyddio ac yn ei gymeradwyo.
Mae dau o leiaf all fod o ddiddordeb i aelodau.
WW1: Trauma and Memory – dechrau 16 Tachwedd, 2 awr yr wythnos am 3 wythnos. BBC a’r Brifysgol Agored.
WW1 Changing Faces of Heroism – dechrau 26 Hydref, 4 awr yr wythnos am 3 wythnos. Prifysgol Leeds.
Cyfeiriwyd at y Ddau Gefnder, sef hanes a gofnodwyd gan Beryl.
Cyfeiriwyd at y gwaith mae Menna Jones yn ei wneud yn cofnodi hanes ysbytai yn y gogledd ar gyfer milwyr y Rhyfel Mawr.
Cynigiodd Catherine luniau o ddogfennau a sganiwyd gennym i’w gosod ar wefan Cymru Dros Heddwch ar ffurf stori. Trosglwyddwyd y rhain i Hanna.
Cawsom gopi gan Vivian o’r gwaith manwl a wnaeth ar y Tribiwnlys yn Llanrwst, a grybwyllwyd y tro blaenorol. Rhoddodd gopi o’i erthygl fel y gallwn dethol gydag ef, darn/darnau i’w rhoi ar ein gwefan newydd ac o bosibl ar Gasgliad y Werin.
Dros y misoedd nesaf…
19 Medi 2.30 yn Neuadd Goffa Glyndyfrdwy: Darlith ‘Glyndŵr yn ei gynefin’ gan Yr Athro Gruffydd Aled Williams.
Cofiwch am y cyfle unigryw yma i glywed hanes Glyndŵr yn yr ardal a roddodd ei enw iddo!
10 Hydref 2.00 yn Neuadd Llanelltud yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol: Darlith ‘Old, rare and interesting: 400 years of Merioneth books’ gan Brian Slyfield a chyfle i weld casgliad preifat arbennig o lyfrau prin â chysylltiad â Meirionnydd.
Lansio cyfrol
Roedd dydd Llun, 13 Gorffennaf yn ddiwrnod arbennig iawn yn Ysgol Llanbedr. Gwelwyd dau ddigwyddiad mewn un yno rhwng lansio’r gyfrol er cof am D J Williams, Y D.J. Arall. Bywyd a Gwaith D.J. Williams, Llanbedr 1886-1950 a ysgrifennwyd gan nith i D J, Gwenith Baker a dadorchuddio llechen er cof amdano ar fur yr ysgol. Cafwyd croeso mawr yn yr ysgol â’r plant yn cymryd rhan flaenllaw yn y gweithgareddau i gofio tad y comic Hwyl.
(llun Beryl Griffiths)
Anrhydedd am gyfraniad arbennig
Llongyfarchiadau mawr i un o’n haelodau Hugh Roberts o’r Bermo ar gael ei anrhydeddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am ei gyfraniad arbennig yn llunio ei gasgliad o ffotograffau hanesyddol sydd i’w weld yma.
Categori Oedolion – Hugh Griffith Roberts
Mae cyn swyddog Parc Cenedlaethol wedi treulio’r rhan fwyaf o’r degawd diwethaf yn gofalu am ‘y casgliad gorau, mae’n siwr’ o ffotograffau hanesyddol ym Mhrydain, gan ennyn diddordeb byd-eang a meithrin cydlyniant cymunedol mewn tref glan y môr y mae ei phoblogaeth yn draddodiadol wedi bod o natur amharhaol. Mae Hugh Griffith Roberts, o’r Bermo, hefyd wedi helpu i hyrwyddo cynhwysiant digidol ymysg pobl hŷn, gan eu hannog i ddefnyddio gwefan i edrych ar y lluniau a’u rhannu â chyfeillion drwy ebost.