Paratoi’r wefan cyn ei lansio a siecio’r cynnwys.
Dydd Sadwrn 23 Mai – Yr Ysgwrn
Daeth nifer dda o aelodau draw ar ein hymweliad â’r Ysgwrn. Roedd yn brofiad arbennig cael yr hanes gan Gerald ar yr aelwyd a dod i sylweddoli gwir effaith y Rhyfel Mawr ar un aelwyd wledig, a thrwy hynny gweld effaith rhyfel ar gymaint o aelwydydd. Rhoddodd swyddogion y Parc Cenedlaethol esboniad ddarlun i ni o’r datblygiadau cyffrous sydd ar y gweill hefyd yn yr Ysgwrn.
Gweithdai Cofio a Chreithiau – 15 Mai 2015
Crynhoi a chynllunio’r rhaglen yn yr hydref a 2016. Ystyried cynnal ysgol undydd eto yn Nhan-y-Bwlch i rannu ein hanesion ac i ddenu aelodau newydd i’r grŵp.
Dal ati i sganio. Bydd Rhian yn dychwelyd y sganiwr i Hazel yn y Llgen ac mae cynllun i roi offer newydd yn ei le fel rhan o’r Hwb Hanes.
Diweddariad ar ein gwefan newydd ac ar yr offer tapio
Bydd angen cysylltu â Chymru Dros Heddwch i drefnu rhoi deunyddiau hanes tapestri’r Crynwyr ar eu gwefan (CJ)
Gweithdai Cofio a Chreithiau – 15 Ebrill 2015
Cyfarfu 9 o aelodau yn archifdy Dolgellau am weithdy 10.30-12.30
Rhai yn methu a dod oherwydd fod y diwydiant twristiaeth wedi cychwyn a hwythau’n brysur.
Rhoddodd Dai ychydig o syniadau i ni ar gyfer gwaith grwp i’r rhai nad oedd ganddynt berthnasau aeth i’r Rhyfel Mawr. Teimlwn fod angen thema i rai ymchwilio adref. Cynigiwyd: Hanes ysbyty i’r swyddogion yn Nannau, Ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth i’r ardal (yn enwedig i’r Bermo) Mae’r Gymdeithas wedi noddi rhoi copïau o’r Barmouth Advertiser ar y we a gellir cael hanes ynddo.
Gweithdai Cofio a Chreithiau – 24 Mawrth
Aethom ati i sganio clawr rhaglen dadorchuddio cofeb Dolgellau a’i osod ar sgrin er mwyn trafod oblygiadau cynnwys rhywbeth o’r fath ar ein gwefan. Bu’n gymorth i ni i gychwyn ffurfio protocol ar gyfer ein gwaith a hefyd rhoddodd gyfle i bawb i gyfrannu syniadau a sylwadau. Teimlwn ein bod yn magu hyder a gweledigaeth. Cawsom sgwrs gan Catherine James o gwmpas nifer o ddogfennau a thystysgrifau oedd yn ymwneud â hanes ei thad, Jenkin W James, a fu’n Wrthwynebwr Cydwybodol. Daeth Mr James yn brifathro mawr ei barch, ar Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Y Bala.
Byddwn yn dal ati i ddatblygu’n gwaith gan gefnogi’r Archifdy ac annog pawb i gyflwyno dogfennau gwreiddiol i’n casgliad yno.
Gweithdai Cofio a Chreithiau – 10 Mawrth 2015
Daeth yr un aelodau i’r ail weithdy. Cawsom drafodaeth ynghyn â’n bwriadau a chawsom gychwyn da yn gwrando ar hanesion am ddau daid i Geraint Vaughan Jones. Disgrifiodd Geraint rai o’r amgylchiadau trist a gwelsom nifer o luniau a dogfennau perthnasol. Drwy hyn, cawsom wybod am rai o’r ffynonellau buddiol a’r cofnodion swyddogol sydd ar gael i’n cynhorthwy wrth ymchwilio.
Cawsom drafodaeth ddifyr iawn i ddilyn a bu’n gyfrwng i ni feddwl am y camau nesaf, a’r hyn ydym am ei gyflawni.
Gweithdai Cofio a Chreithiau – 24 Chwefror 2015
Fel rhan o’n prosiect loteri, rydym am gofnodi hanesion a sganio deunyddiau teuluol a lleol sy’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr. Daeth 12 o aelodau a thri ymwelydd atom i Archifdy Dolgellau am ddiwrnod o hyfforddiant dan ofal Hazel Thomas a Rhian Davies, Casgliad y Werin. Ymhlith yr ymwelwyr oedd Craig Owen, Cyfarwyddwr newydd prosiect Cymru Dros Heddwch, sydd wedi ei leoli yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Gobeithiwn osod cyfran o’n gwaith ar eu gwefan, dan adain gwefan Casgliad y Werin. Mae gogwydd cofio a dysgu gwersi i’n gwaith wrth i ni ymchwilio i rai o effeithiau’r rhyfel ar Feirionnydd.
Cawsom ddiwrnod prysur a dwys wrth i ni ddysgu am ddeddfau hawlfraint a dulliau sganio i gyfarfod â safonau penodol. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr hyfforddiant effeithiol ac am yr hwb i fynd ati o ddifrif.