Rhan o amcanion y Gymdeithas yw cyhoeddi Cylchgrawn fydd yn cynnwys erthyglau yn Gymraeg a Saesneg, cyfraniadau ar ymchwil cyfredol, adroddiadau o’r Archifdy lleol ac ar weithgareddau’r Gymdeithas, ac adolygiadau o gyhoeddiadau ysgolheigaidd.
Cyhoeddwyd Cylchgrawn cyntaf y Gymdeithas, dan olygyddiaeth Syr William Ll. Davies, ym 1949 a chyhoeddwyd rhifyn yn flynyddol ers hynny. Cyhoeddwyd tri ‘Chyhoeddiad Ychwanegol’ rhwng 1952-55.
Cynnwys y Cylchgrawn Cyfredol (2026):
- Bardd Hiraeth: Siarl Wyn o Benllyn ….E. Wyn James
- Legacies of the Meironnydd Missionaries to Sylhet…Aled Gruffydd Jones
- Thomas Richards: An author with many pseudonyms but never his own name …Brian J. Slyfield
- Chwyldro Tanygrisiau: Hanes Mary a Silyn Roberts yn yr ardal, 1905-1913…Angharad Tomos
- Cyfraniadau Byr:
‘Edward Corbet: Correction’ (Quentin Deakin); Louisa Matilda Spooner (‘L.M.S.’), Victorian Novelist and Author of Gladys of Harlech (Brian J. Slyfield); ‘The Jewish Commandos of X Troop at Aberdyfi’ (Nathan Abrams); ‘Cofnodi Hanes Darluniadol Dolgellau: Cyfrolau Merfyn Wyn Tomoms’ (Rheinallt Llwyd); ‘”Dim Celf Gymreig”’: Archwilio’r Myth’ (Gareth Owen)
Mae ôl-rifynnau o’r Cylchgrawn ar gael:
1950-54, 1956-1986, 1989-2011, 2013-2025 – £5 yr un
Croesewir cyfraniadau i’r Cylchgrawn i’w hystyried gan y Golygydd Mygedol. Dylid eu hanfon fel atodiadau e-bost at y Golygydd Gweinyddol Beryl H Griffiths (berylh.griffiths@btinternet.
