PROSIECTAU

Cofio a Chreithiau’r Rhyfel Mawr

Cawsom arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer astudiaeth o effeithiau’r Rhyfel Mawr ar Feirionnydd. Cynhaliwyd ysgol undydd ym Mhlas Tan-y-bwlch i drafod effeithiau’r rhyfel ar ferched, dulliau recriwtio, profiad gwrthwynebwr cydwybodol ac adroddiadau a llythyrau yn y wasg leol oddi wrth fechgyn ifainc o faes y gad.
Cawsom drafodaeth ddifyr iawn wrth i aelodau adrodd hanesion teuluol.
Cynhaliwyd gweithdai byrion yn Archifdy Meirionnydd i gasglu lluniau i’w sganio a hanesion i’w hadrodd. Mae ein cynnyrch ar wefan Casgliad y Werin dan adain prosiect cenedlaethol, Cymru Dros Heddwch.

casgliadywerin.cymru

FFYNONELLAU’R RHYFEL MAWR
Yn ystod ein gweithdai rydym wedi dysgu llawer am y deunyddiau sydd ar gael i unrhyw un sydd am ymchwilio i hanes y rhai yr effeithiodd y Rhyfel Mawr arnynt.

Papurau Newydd Cymru Ar-lein

I gael hanesion lleol nid oes dim yn well na http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/ . Gallwch chwilio’r safle yn rhwydd iawn am enwau lleoedd, boed yn ffermydd unigol neu yn ardaloedd cyfan.

Gallwch chwilio am enwau hefyd, ond wrth gwrs, gorau yn y byd os gallwch osgoi chwilio am ‘John Jones’ gan y byddwch yn debygol o gael cannoedd o gyfeiriadau na fydd o unrhyw ddefnydd i chi.

Mae’n ddefnyddiol iawn hefyd eich bod yn gallu cyfuno dwy elfen yn syml iawn trwy ychwanegu’r arwydd &, felly bydd chwilio am Jane&Owen yn golygu eich bod yn osgoi cael pob cyfeiriad at Jane a phob Owen! Mae’n ddefnyddiol hefyd eich bod yn gallu cyfyngu eich chwilio i ardal benodol o

Gymru, i flynyddoedd penodol neu hyd yn oed i bapur penodol. Trwy’r papurau newydd gellir dysgu llawer am bob agwedd ar y Rhyfel o safbwynt y rhai oedd gartref i hanesion ysgytwol y Tribiwnlysoedd oedd yn penderfynu pwy oedd yn gorfod mynd i’r Rhyfel. Mae’n gyfle unigryw i gael cip ar y Rhyfel trwy lygaid y rhai oedd yn gorfod wynebu profiad o’r fath.

Cofebau lleol

Mae’r ardalwyr ym Meirionnydd wedi codi llu o gofebau i’r milwyr a gollwyd. Maent yn amrywiol o ran y manylion sydd arnynt ond yn sicr maent yn fan cychwyn pwysig i unrhyw ymchwil. Gwnaed gwaith rhyfeddol ar gofebau Meirionnydd gan Mr Nuttall o Landderfel (Minto). Mewn cyfrolau sydd ar y silff agored yn yr Archifdy gwelir ffrwyth ei ymchwil i hanes y milwyr o Feirionnydd a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

Rhestr Pleidleiswyr Absennol

Cedwir y rhestri yma yn yr Archifdy yn Nolgellau ar gyfer 1918 ac 1919. Eu prif werth yw dangos yn union faint o drigolion pob ardal oedd yn ymwneud â’r lluoedd arfog. Ceir nodiadau mewn llawysgrif ar gyfer rhai o’r enwau hefyd yn nodi unrhyw newid yn sefyllfa’r pleidleisiwr. Rhaid cofio, wrth gwrs, mai dim ond y rhai oedd yn ddigon hen i bleidleisio sy’n cael eu rhestru, ac nad yw’r rhai a laddwyd ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel yn cael eu nodi.

Gwefan y Comisiwn Beddau Rhyfel

Os gwyddoch am filwr a fu farw yn ystod y Rhyfel, y safle yma: http://www.cwgc.org/ yw’r man cyntaf i gael rhagor o wybodaeth am y fynwent lle’i claddwyd neu’r gofeb lle mae ei enw yn cael ei nodi. Oherwydd y nifer fawr o enwau tebyg sydd yma mae gofyn troedio yn ofalus a bod yn sicr o’ch ffeithiau gan y gallwch gael eich camarwain yn arw. Os oes gennych oedran, syniad o’r dyddiad pan fu farw a’r ardal lle bu’n ymladd yn fras, fe allwch gael gwybod union leoliad y bedd neu’r enw.

Gwefannau Talu

Os ydych yn barod i dalu mae nifer o wefannau yn cynnig rhagor o wybodaeth ond, wrth gwrs, does dim sicrwydd bod y wybodaeth wedi goroesi gan i lawer o ddeunydd am y Rhyfel gael ei ddinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond os ydych am fentro, neu efallai eich bod yn aelod yn barod mae ancestry.co.uk a https://www.forces-war-records.co.uk/ yn safleoedd defnyddiol. Ond troediwch yn ofalus rhag i chi orfod talu yn fisol am gyfnod hir! Cofiwch hefyd bod gwefan Ancestry ar gael yn yr Archifdy am ddim!

Sgwrs rhaglen Dei Tomos

Ar raglen Dei Tomos ar 7 Chwefror 2016 bu un o aelodau’r Gymdeithas, Catherine James, yn trafod hanes ei thad oedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Mawr.

Gwallwch wrando ar y sgwrs isod.