Gweithdai Cofio a Chreithiau – 15 Ebrill 2015

beryl Cyffredinol

Cyfarfu 9 o aelodau yn archifdy Dolgellau am weithdy 10.30-12.30

Rhai yn methu a dod oherwydd fod y diwydiant twristiaeth wedi cychwyn a hwythau’n brysur.

Rhoddodd Dai ychydig o syniadau i ni ar gyfer gwaith grwp i’r rhai nad oedd ganddynt berthnasau aeth i’r Rhyfel Mawr.  Teimlwn fod angen thema i rai ymchwilio adref.  Cynigiwyd:  Hanes ysbyty i’r swyddogion yn Nannau, Ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth i’r ardal (yn enwedig i’r Bermo)  Mae’r Gymdeithas wedi noddi rhoi copïau o’r Barmouth Advertiser ar y we a gellir cael hanes ynddo.