Gweithdy 6 Hydref 2015 Archifdy Dolgellau

beryl Cyffredinol

Daeth saith ohonom at ein gilydd ac ymunwyd â ni gan Hanna Huws, swyddog Cymunedau Gogledd Cymru, Cymru Dros Heddwch. Difyr oedd cyfnewid gwybodaeth a thrafod posibiliadau cydweithio.Dyma rai o’r pynciau a ddaeth i’r wyneb: Hanna-  Edrych am ffyrdd o ddod o hyd i heddwch Plant ‘heb hanes’, a sut i gau’r bwlch Prosiect Llyfr y Cofio, Rhian James Jones, …

Dros y misoedd nesaf…

beryl Cyffredinol

19 Medi 2.30 yn Neuadd Goffa Glyndyfrdwy: Darlith ‘Glyndŵr yn ei gynefin’ gan Yr Athro Gruffydd Aled Williams. Cofiwch am y cyfle unigryw yma i glywed hanes Glyndŵr yn yr ardal a roddodd ei enw iddo!   10 Hydref 2.00 yn Neuadd Llanelltud yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol: Darlith ‘Old, rare and interesting: 400 years of Merioneth books’ gan Brian Slyfield a …

Lansio cyfrol

beryl Cyffredinol

Roedd dydd Llun, 13 Gorffennaf yn ddiwrnod arbennig iawn yn Ysgol Llanbedr. Gwelwyd dau ddigwyddiad mewn un yno rhwng lansio’r gyfrol er cof am D J Williams, Y D.J. Arall. Bywyd a Gwaith D.J. Williams, Llanbedr 1886-1950 a ysgrifennwyd gan nith i D J, Gwenith Baker a dadorchuddio llechen er cof amdano ar fur yr ysgol. Cafwyd croeso mawr yn yr ysgol â’r plant …

Anrhydedd am gyfraniad arbennig

beryl Cyffredinol

Llongyfarchiadau mawr i un o’n haelodau Hugh Roberts o’r Bermo ar gael ei anrhydeddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am ei gyfraniad arbennig yn llunio ei gasgliad o ffotograffau hanesyddol sydd i’w weld yma. Categori Oedolion – Hugh Griffith Roberts  Mae cyn swyddog Parc Cenedlaethol wedi treulio’r rhan fwyaf o’r degawd diwethaf yn gofalu am ‘y casgliad gorau, mae’n siwr’ o ffotograffau hanesyddol …

Dydd Sadwrn 23 Mai – Yr Ysgwrn

beryl Cyffredinol

Daeth nifer dda o aelodau draw ar ein hymweliad â’r Ysgwrn. Roedd yn brofiad arbennig cael yr hanes gan Gerald ar yr aelwyd a dod i sylweddoli gwir effaith y Rhyfel Mawr ar un aelwyd wledig, a thrwy hynny gweld effaith rhyfel ar gymaint o aelwydydd. Rhoddodd swyddogion y Parc Cenedlaethol esboniad ddarlun i ni o’r datblygiadau cyffrous sydd ar …

Gweithdai Cofio a Chreithiau – 15 Mai 2015

beryl Cyffredinol

Crynhoi a chynllunio’r rhaglen yn yr hydref a 2016.  Ystyried cynnal ysgol undydd eto yn Nhan-y-Bwlch i rannu ein hanesion ac i ddenu aelodau newydd i’r grŵp. Dal ati i sganio.  Bydd Rhian yn dychwelyd y sganiwr i Hazel yn y Llgen ac mae cynllun i roi offer newydd yn ei le fel rhan o’r Hwb Hanes. Diweddariad ar ein …

Gweithdai Cofio a Chreithiau – 15 Ebrill 2015

beryl Cyffredinol

Cyfarfu 9 o aelodau yn archifdy Dolgellau am weithdy 10.30-12.30 Rhai yn methu a dod oherwydd fod y diwydiant twristiaeth wedi cychwyn a hwythau’n brysur. Rhoddodd Dai ychydig o syniadau i ni ar gyfer gwaith grwp i’r rhai nad oedd ganddynt berthnasau aeth i’r Rhyfel Mawr.  Teimlwn fod angen thema i rai ymchwilio adref.  Cynigiwyd:  Hanes ysbyty i’r swyddogion yn …