Ni fydd gweithdy Cofio a Chreithiau yn cael ei gynnal ar 17 Mai. Bydd y nesaf ar 7 Mehefin.
Newid dyddiad ymweliad â Thyn-y-coed
Newidiwyd dyddiad ein hymweliad â Thyn-y-coed i 25 Mehefin (y dydd Sadwrn canlynol). Byddem yn falch iawn pe gallech sôn wrth eich cyd-aelodau am y newid.
Cofio a Chreithiau
Cofiwch am ein diwrnod i ddathlu ein prosiect ‘Cofio’ ddydd Sadwrn 7 Mai 2016 am 2.30 yn Nhanybwlch. Bydd sgyrsiau gan Geraint Vaughan Jones, Vivian Parry Williams, Menna Jones a Beryl H Griffiths.
Y Ddarlith Gymraeg -23/4/16
Y Ddarlith Gymraeg: Rhai o Gapeli Meirionnydd gan Dr Huw Owen. Neuadd Bentref Llanuwchllyn, Y Bala Dydd Sadwrn, 23 Ebrill am 2.30 o’r gloch. Bydd paned ar gael. Croeso i bawb. Mynediad am ddim.
Gweithdy 6 Hydref 2015 Archifdy Dolgellau
Daeth saith ohonom at ein gilydd ac ymunwyd â ni gan Hanna Huws, swyddog Cymunedau Gogledd Cymru, Cymru Dros Heddwch. Difyr oedd cyfnewid gwybodaeth a thrafod posibiliadau cydweithio.Dyma rai o’r pynciau a ddaeth i’r wyneb: Hanna- Edrych am ffyrdd o ddod o hyd i heddwch Plant ‘heb hanes’, a sut i gau’r bwlch Prosiect Llyfr y Cofio, Rhian James Jones, …
Dros y misoedd nesaf…
19 Medi 2.30 yn Neuadd Goffa Glyndyfrdwy: Darlith ‘Glyndŵr yn ei gynefin’ gan Yr Athro Gruffydd Aled Williams. Cofiwch am y cyfle unigryw yma i glywed hanes Glyndŵr yn yr ardal a roddodd ei enw iddo! 10 Hydref 2.00 yn Neuadd Llanelltud yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol: Darlith ‘Old, rare and interesting: 400 years of Merioneth books’ gan Brian Slyfield a …
Lansio cyfrol
Roedd dydd Llun, 13 Gorffennaf yn ddiwrnod arbennig iawn yn Ysgol Llanbedr. Gwelwyd dau ddigwyddiad mewn un yno rhwng lansio’r gyfrol er cof am D J Williams, Y D.J. Arall. Bywyd a Gwaith D.J. Williams, Llanbedr 1886-1950 a ysgrifennwyd gan nith i D J, Gwenith Baker a dadorchuddio llechen er cof amdano ar fur yr ysgol. Cafwyd croeso mawr yn yr ysgol â’r plant …
Anrhydedd am gyfraniad arbennig
Llongyfarchiadau mawr i un o’n haelodau Hugh Roberts o’r Bermo ar gael ei anrhydeddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am ei gyfraniad arbennig yn llunio ei gasgliad o ffotograffau hanesyddol sydd i’w weld yma. Categori Oedolion – Hugh Griffith Roberts Mae cyn swyddog Parc Cenedlaethol wedi treulio’r rhan fwyaf o’r degawd diwethaf yn gofalu am ‘y casgliad gorau, mae’n siwr’ o ffotograffau hanesyddol …
Gwefan newydd
Paratoi’r wefan cyn ei lansio a siecio’r cynnwys.
Dydd Sadwrn 23 Mai – Yr Ysgwrn
Daeth nifer dda o aelodau draw ar ein hymweliad â’r Ysgwrn. Roedd yn brofiad arbennig cael yr hanes gan Gerald ar yr aelwyd a dod i sylweddoli gwir effaith y Rhyfel Mawr ar un aelwyd wledig, a thrwy hynny gweld effaith rhyfel ar gymaint o aelwydydd. Rhoddodd swyddogion y Parc Cenedlaethol esboniad ddarlun i ni o’r datblygiadau cyffrous sydd ar …