Gweithdai Cofio a Chreithiau – 15 Mai 2015

beryl Cyffredinol

Crynhoi a chynllunio’r rhaglen yn yr hydref a 2016.  Ystyried cynnal ysgol undydd eto yn Nhan-y-Bwlch i rannu ein hanesion ac i ddenu aelodau newydd i’r grŵp. Dal ati i sganio.  Bydd Rhian yn dychwelyd y sganiwr i Hazel yn y Llgen ac mae cynllun i roi offer newydd yn ei le fel rhan o’r Hwb Hanes. Diweddariad ar ein …

Gweithdai Cofio a Chreithiau – 15 Ebrill 2015

beryl Cyffredinol

Cyfarfu 9 o aelodau yn archifdy Dolgellau am weithdy 10.30-12.30 Rhai yn methu a dod oherwydd fod y diwydiant twristiaeth wedi cychwyn a hwythau’n brysur. Rhoddodd Dai ychydig o syniadau i ni ar gyfer gwaith grwp i’r rhai nad oedd ganddynt berthnasau aeth i’r Rhyfel Mawr.  Teimlwn fod angen thema i rai ymchwilio adref.  Cynigiwyd:  Hanes ysbyty i’r swyddogion yn …

Gweithdai Cofio a Chreithiau – 24 Mawrth

beryl Digwyddiadau

Aethom ati i sganio clawr rhaglen dadorchuddio cofeb Dolgellau a’i osod ar sgrin er mwyn trafod oblygiadau cynnwys rhywbeth o’r fath ar ein gwefan.  Bu’n gymorth i ni i gychwyn ffurfio protocol ar gyfer ein gwaith a hefyd rhoddodd gyfle i bawb i gyfrannu syniadau a sylwadau.  Teimlwn ein bod yn magu hyder a gweledigaeth. Cawsom sgwrs gan Catherine James …

Gweithdai Cofio a Chreithiau – 10 Mawrth 2015

beryl Digwyddiadau

Daeth yr un aelodau i’r ail weithdy. Cawsom drafodaeth ynghyn â’n bwriadau a chawsom gychwyn da yn gwrando ar hanesion am ddau daid i Geraint Vaughan Jones. Disgrifiodd Geraint rai o’r amgylchiadau trist a gwelsom nifer o luniau a dogfennau perthnasol. Drwy hyn, cawsom wybod am rai o’r ffynonellau buddiol a’r cofnodion swyddogol sydd ar gael i’n cynhorthwy wrth ymchwilio. …

Gweithdai Cofio a Chreithiau – 24 Chwefror 2015

beryl Digwyddiadau

Fel rhan o’n prosiect loteri, rydym am gofnodi hanesion a sganio deunyddiau teuluol a lleol sy’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr. Daeth 12 o aelodau a thri ymwelydd atom i Archifdy Dolgellau am ddiwrnod o hyfforddiant dan ofal Hazel Thomas a Rhian Davies, Casgliad y Werin. Ymhlith yr ymwelwyr oedd Craig Owen, Cyfarwyddwr newydd prosiect Cymru Dros Heddwch, sydd wedi ei …